Datblygu Cynllun Colegau i'r Pedwar Gwlad

Mae llwyddiant y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit yn dibynnu ar “gontract cymdeithasol newydd”, ac ar greu system addysg broffesiynol a thechnegol o’r radd flaenaf. Dangosodd arolwg diweddar ymhlith busnesau bach a chanolig eu maint mai dod o hyd i weithwyr sydd â'r sgiliau iawn yw pryder pennaf 6 o bob 10 busnes, tra bo 58% yn credu y bydd y Deyrnas Unedig yn llithro ar ei hôl hi oni bai bod llywodraethau yn gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r broblem.

Mae adroddiad newydd gan arweinwyr Addysg Bellach o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’i gyhoeddi heddiw, a hwnnw’n dangos sut y dylai’r llywodraeth fynd ati i ymateb i’r pryderon hyn a chreu economi gref a marchnad lafur gydnerth unwaith y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ‘Developing a Four Nations College Blueprint for a Post-Brexit Economy’ yn cynnig creu “contract cymdeithasol newydd” a fyddai’n cyflwyno ffordd well o gyllido myfyrwyr amser llawn a rhan amser yn y maes addysg bellach ac addysg uwch. Ar sail egwyddorion Adolygiad Diamond yng Nghymru, byddai hyn hefyd yn rhoi hawl i holl ddinasyddion y Deyrnas Unedig gael grantiau cynhaliaeth sy’n cyfateb i werth y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Mae colegau ledled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn addysgu ac yn hyfforddi 2.7 miliwn o bobl. Mae’r colegau'n galw am greu “partneriaeth gymdeithasol newydd” gyda’u myfyrwyr, cyflogwyr, undebau a llywodraethau. Byddai'r bartneriaeth yn mynd at i bennu’r weledigaeth a’r strategaeth, ac yn ei rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod yr heriau hyn yn cael sylw. Byddai’r bartneriaeth yn hanfodol hefyd er mwyn hyrwyddo sgiliau fel rhan hollbwysig o ddyfodol llwyddiannus. Byddai’n fodd o annog cyflogwyr, pobl a chymunedau i newid eu hymddygiad a’u diwylliant er mwyn inni ddod yn gymdeithas sy’n rhoi pwys mawr ar ddysgu gydol oes.

Ymhlith yr argymhellion eraill y mae:

Hawl i Ddysgu Gydol Oes – Hawl gyfreithiol i gael addysg a hyfforddiant achrededig, gyda chysylltiad rhwng hynny ag anghenion y farchnad lafur. Byddai modd rhoi arian i unigolion i’w galluogi i gael addysg a hyfforddiant ar yr adeg iawn iddynt hwy. Byddai hyn yn cael ei ariannu drwy glustnodi rhan o'r gyllideb addysg oedolion.

Rhaglen Ailhyfforddi Genedlaethol – Byddai’r rhaglen hon yn rhoi buddsoddiad yn y tymor cymharol fyr i wella cynhyrchiant, gan lenwi bylchau sylweddol mewn sgiliau sy’n ymddangos mewn meysydd pwysig. Byddai hyn hefyd yn cael ei ariannu drwy glustnodi rhan o'r gyllideb addysg oedolion.

Bargen Swyddi Newydd – Fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Pontio’r Cenedlaethau y Resolution Foundation, rhaglen i’r farchnad lafur fyddai hon, yn benodol ar gyfer gweithwyr ifanc sydd mewn swyddi sgiliau is ac ansicr. Byddai’n rhoi cymorth ymarferol iddynt gael hyfforddiant er mwyn symud i swyddi gwell.

Meddai David Hughes, Prif Weithredwr Cymdeithas y Colegau:

“Mae’r heriau sy’n gysylltiedig â'r economi ar ôl Brexit yn golygu y bydd llawer llai o bobl sydd â sgiliau yn mudo yma. At hynny, mae’r bwlch cynyddol mewn sgiliau mewn meysydd fel STEM a sectorau pwysig eraill yn golygu bod angen inni wneud mwy nag erioed i greu system addysg dechnegol sy’n ateb anghenion pawb – a honno’n galluogi pobl i hyfforddi ac ailhyfforddi drwy gydol eu gyrfaoedd. Bydd colegau’n ganolog i hyn.

“Mae colegau’n hanfodol er mwyn darparu'r addysg a’r hyfforddiant y mae eu hangen ar bobl o bob oed. Maent yn hwb i gynhyrchiant, maent yn cryfhau’r economi, ac yn maent yn awyddus i gyfrannu mwy. Ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi, mae angen i’r Llywodraeth nesaf gefnogi colegau i ddatblygu diwylliant o ddysgu gydol oes.”

Meddai Shona Struthers, Prif Weithredwr Colleges Scotland:

“Rydym yn teimlo’n gyffrous wrth lansio Cynllun Colegau’r Pedair Cenedl. Mae’r cynllun yn ffrwyth cydweithio gan y sector colegau ledled y Deyrnas Unedig, gan greu partneriaeth i sicrhau bod colegau yn barod am yr heriau sy’n eu hwynebu yn y cyfnod ar ôl Brexit. Bydd y cynllun hwn yn gymorth i roi’r sgiliau proffesiynol, technegol a galwedigaethol y mae eu hangen ar ddysgwyr i lwyddo mewn marchnad lafur arloesol, a honno’n esblygu’n barhaus.

“Mae Colegau’n ganolog i dwf economaidd cynhwysol a chynaliadwy. Wrth i bedair cenedl y Deyrnas Unedig gydweithio, mae modd mynd ati ar y cyd i ddatblygu ein cryfderau ac ysgogi newid cadarnhaol er budd ein dysgwyr, cyflogwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Meddai Dafydd Evans, Cadeirydd Colegau Cymru:

“Mae Colegau yng Nghymru o blaid sefydlu cynghrair y Pedair Cenedl, ac maent yn credu bod hyn yn gyfle i ddod ynghyd i ddiffinio rôl colegau yn y dyfodol mewn economi fodern. Gan ddatblygu ar y gwerthoedd a’r uchelgais y maent yn eu rhannu, mae colegau’n gwneud cyfraniad o bwys tuag at ehangu mynediad a chyfranogiad, mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol, ac ysgogi adfywio economaidd.

“Er ein bod yn parchu cyd-destunau ac awdurdodaethau gwahanol yr holl wledydd datganoledig, credwn fod i’r bartneriaeth newydd hon wir werth, gan y bydd yn manteisio ar yr arferion amrywiol ledled y sector er mwyn creu cyfleoedd dysgu gydol oes. Gyda mwy o fuddsoddi, gall colegau fod yn fwy allweddol fyth wrth ymateb i’r heriau a fydd yn wynebu’r farchnad lafur yn y dyfodol. Mae Colegau yng Nghymru yn dal i gredu’n gryf bod y dull hwn o gydweithio rhwng colegau’r pedair cenedl yn hollbwysig er mwyn i economi Prydain adfer a ffynnu, ac rydym yn teimlo’n gyffrous ynghylch yr hyn y gall y cynghrair hwn ei gyflawni.”

Meddai Brian Doran, Cadeirydd Grŵp Penaethiaid Colegau Gogledd Iwerddon:

“Mae colegau addysg bellach Gogledd Iwerddon yn croesawu sefydlu Cynghrair y Pedair Cenedl, ac yn gwbl gefnogol i’r bartneriaeth gymdeithasol arfaethedig rhwng colegau, cyflogwyr, undebau a llywodraethau fel yr amlinellir yng Nghynllun Colegau’r Pedair Cenedl.

“Er ein bod yn cydnabod bod gwahaniaethau ym mholisïau'r gwahanol wledydd, mae’n hollbwysig ein bod hefyd yn cydnabod bod llawer yn gyffredin rhyngddynt, a bod cyfle i fanteisio ar amrywiaeth gyfoethog yr arferion ar draws y sector. Mae’n hollbwysig, nawr yn fwy nag erioed, bod llywodraethau’n cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi colegau yn y pedair gwlad wrth iddynt fynd ati i greu cymdeithas fwy cynhwysol, cyfrannu at degwch cymdeithasol, a datblygu gweithlu’r Deyrnas Unedig nawr ac yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at fod yn rhan o’r gwaith o helpu i greu rôl i golegau’r dyfodol, mewn byd ar ôl Brexit.”

Mae’r adroddiad yn edrych ar y diffygion mewn sgiliau yn y Deyrnas Unedig, ac yn awgrymu bod gwir angen ailfeddwl yn sylfaenol am bolisïau cyhoeddus a buddsoddiad os yw’r heriau y mae llywodraethau, cyflogwyr a phobl ledled y Deyrnas Unedig yn eu hwynebu am gael sylw digonol. Mae colegau’n ganolog i’r diwygio hwn, gan eu bod yn rhoi addysg a hyfforddiant i dros dair miliwn o bobl bob blwyddyn.

Developing a Four Nations College Blueprint for a post-Brexit economy