Grŵp Gwella Ansawdd
Mae codi safonau trwy hunanreoleiddio wedi’i hen sefydlu ym musnes craidd ColegauCymru (ers peilot cychwynnol llwyddiannus yn 2005). Ysgogwyd a goruchwyliwyd y strategaeth yn y lle cyntaf gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd. Unodd y Pwyllgor gyda’r Pwyllgor Llywio Lleihau Biwrocratiaeth yn 2009, ac yna yn 2012, roedd yn cael ei adnabod fel y Grŵp Gwella Ansawdd.
Pwrpas
Nod y Grŵp yw gweithio gyda sefydliadau partner allweddol i gynnal enw da’r sector fel cyflwynwydd dysgu ansawdd uchel. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy welliant ansawdd parhaus, meincnodi, dysgu cymheiriad i gymheiriad a rhannu arfer da ar draws y sector AB ac o leihau’r fiwrocratiaeth ddiangen.
Cylch Gwaith
Mae gan y Grŵp Gwella Ansawdd ddwy haen waith allweddol.
Gwella Ansawdd
- bod wrthi’n hyrwyddo ethos cryf o welliant ansawdd parhaus a rhannu arfer da ar draws y sector AB
- ymgysylltu’n gadarnhaol gydag Estyn, yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES) ac unrhyw gyrff perthnasol eraill i sicrhau bod arolygiadau a fframweithiau ansawdd yn bodloni anghenion y dysgwr a’r sector
- gwella ansawdd y data ar gyfer rheoli perfformiad a rheoleiddio sy’n hanfodol i enw da’r colegau
- sicrhau bod ansawdd profiad addysgol y dysgwyr a safonau academaidd eu gwobrau’n bodloni ac yn rhagori ar y trothwyon ansawdd a osodwyd gan Estyn a Llywodraeth Cymru
- cymeradwyo a monitro cynnydd rhaglen waith flynyddol sydd wedi’i hanelu at wella ansawdd a lleihau biwrocratiaeth trwy hunanreoleiddio.
Lleihau Biwrocratiaeth
- gweithio gyda DfES, Estyn ac unrhyw gyrff perthnasol eraill i leihau craffu allanol gormodol ac i leihau dyblygu
- gweithio’n agos gyda chyrff rheoleiddio, yn enwedig DfES, wrth sicrhau bod rheoleiddio colegau’n gymesur i’r lefel risg
- gweithio gyda chyrff rheoleiddio ar gynigion ar gyfer arolygiadau newydd, trefniadau archwilio a chasglu data i sicrhau y llunnir fframweithiau rheoleiddio newydd ar sail rhesymeg glir a heb fod hynny er anfantais i’r sector.
Aelodaeth
Mae’r aelodau’n cynnwys staff ColegauCymru, penaethiaid colegau AB a chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, Estyn a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.