cynrychioli colegau
Mae ColegauCymru yn dylanwadu ar y fframwaith polisi sy'n effeithio ar golegau drwy:
- darparu papurau gwybodaeth rheolaidd i Lywodraeth y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad (ACau) ac Aelodau Seneddol (ASau)
- adeiladu perthynas waith gref gydag ystod o bobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol a phobl ddylanwadol, gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cynghorau Sgiliau Sector, Cyngor Cyllido Addysg Uwch, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Niace Dysgu Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), a thrwy Cymdeithas y Colegau (AoC) ar gyfer materion traws-ffiniol a materion sydd heb eu datganoli..
- cynrychioli colegau ar ystod o bwyllgorau allanol a grwpiau tasg a gorffen.