20 Mehefin 2012

'Billy Elliott’ Penybont ar Ogwr yn dawnsio i’r brig
Mae ‘Billy Elliott’ go iawn o Benybont ar Ogwr, sydd wedi achosi effaith anferthol ar y byd dawns gyda’r fath o ddawn ac ymrwymiad nad oedd bron byth wedi cael ei weld gan ei diwtoriaid coleg o’r blaen, wedi ennill gwobr Cymru-eang am ei ymdrechion.
Enwyd Adam Taylor, 18, o Benybont ar Ogwr, fel Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn (Dysgwr VQ y Flwyddyn), gwobr a gynhelir yn flynyddol er mwyn nodi Diwrnod VQ (20 Mehefin), ac i ddathlu cyflawniadau’r rhai hynny sydd wedi rhagori mewn dysgu ymarferol a chysylltiedig â gwaith.
Cymeradwywyd Adam am ei frwdfrydedd ac angerdd am ddawns, rhywbeth sydd eisoes wedi ennill nifer o anrhydeddau iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar raglen ‘Don’t Stop Believing’ Sianel 5 ill dau.
Cydnabyddwyd y dyn ifanc hefyd gydag ysgoloriaeth o £60,000 i ysgol ddawns glodfawr yn Llundain.
Gorchfygodd Adam gystadleuaeth gadarn gan bum dysgwr arall o bob rhan o Gymru, bob un wedi’i roi ar y rhestr fer oherwydd ei ymrwymiad a thalent a ddangoswyd tra’n ennill cymwysterau galwedigaethol o golegau a chanolfannau hyfforddi.
Cyflwynwyd y gwobr i’r egin ddawnsiwr, gan gyn-seren rygbi Jonathan Davies mewn seremoni wobrwyo broffil-uchel a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, i ddathlu Diwrnod VQ.
Wrth siarad am y Wobr VQ, fe dywedodd Adam: “Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill y gwobr, roedd yn sioc anferthol ond rwy’n falch iawn.
“Fe wnes i ddechrau dawnsio pan oeddwn i’n 12 mlwydd oed ac fe wnes i gwympo mewn cariad gyda fe, dywedodd rhai pobl eu bod yn meddwl fod gen i’r ddawn i’w wneud fel gyrfa felly fe wnes i benderfynu ymrestri yng Ngholeg PenyBont.
"Pan oeddwn i yno fe wnaeth fy nhiwtoriaid awgrymu i mi wneud cais i Ysgol Celfyddydau Perfformio Bird yn Llundain. Roedd yna dros 20,000 o geisiai ond roeddwn i’n un o’r rhai lwcus ac fe ges i fy ngwobrwyo gydag ysgoloriaeth. Rwy’n caru pob munud ohono.
"Ar ôl i mi orffen hyfforddi dwi eisiau perfformio yn y West End am rhai blynyddoedd ond wedyn fe hoffwn i ddod yn ôl i Gymru i ddechrau ysgol dawnsio fy hun ym Mhenybont.”
Enwebwyd Adam, sy’n ddeunaw oed, gan ei diwtor yng Ngholeg Penybont lle bu ei ymrwymiad at ddysgu greu argraff a’i helpu wrth gyflawni clod triphlyg mewn Diploma Lefel 3 mewn Theatr Gerddorol.
Yn sgîl perfformiadau anghygoel mewn dawns bale, jas, tap a hip hop derbyniodd yr arddegydd wobr o ysgoloriaeth dair blynedd o £60,000 gan y Coleg Celfyddydau Perfformio Bird byd-enwog yn Llundain.
Mae Adam hefyd wedi gwibio i enwogrwydd ar y sgrîn fach trwy ei aelodaeth o’r grŵp dawnsio lleisiol TrueDynamix a gyrhaeddodd rownd derfynol rhaglen dalent Sianel 5, ‘Don’t Stop Believing’.
Cynhelir Diwrnod VQ bob blwyddyn i ddathlu llwyddiant miloedd o bobl ledled Cymru sy’n cyflawni cymwysterau galwedigaethol mewn amrywiaeth eang o bynciau megis saernïaeth, therapi harddwch a gofal plant. Fe’i trefnir yng Nghymru gan GolegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac fe’i ariannir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, bawb oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar eu cyflawniadau, ymrwymiad a thalent sy’n eu gosod ar wahân i’w cyfoedion.
Meddai: "Hoffwn longyfarch Adam Taylor ar ennill Gwobr VQ eleni. Mae e a phob un o derfynwyr eleni wedi profi y gallwch chi fynd ymhell gyda chymwysterau galwedigaethol ac rwy’n gobeithio y bydd eu storïau’n ysbrydoliaeth i bobl eraill. Yn aml dydy cymwysterau galwedigaethol ddim yn mwynhau’r proffil uchel maen nhw’n eu haeddu ond maen nhw’n aruthrol o werthfawr wrth baratoi pobl ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn llawer o feysydd gwahanol. Mae safon y dysgu galwedigaethol hyn, fel a arddangosir gan y bobl ragorol yma, yn gonglfaen dyfodol Cymru fel economi cystadleuol."
Y pum terfynwr arall oedd darpar beiriannwr Scott Kihlberg, 22, o Benarth, gweithwraig gofal a datblygu plant, Sian Preddy, 37, o Benybont ar Ogwr, a orchfygodd fyddardod dwfn i gyflawni marciau uchaf yn ei chwrs gradd sylfaenol.
Hefyd yn y ras oedd y seren gwallt a harddwch ar ei chynnydd, Charlotte Nicholls, 22, o Wrecsam, hyfforddwraig chwaraeon dan hyfforddiant a neidwraig uchel, Sian Swanson,19, o’r Drenewydd, a dewin cigyddiaeth, Tomos Hopkin, 18, o Bontardawe.
Mae eu storïau o lwyddiant yn cynrychioli storïau cannoedd o ddysgwyr ar draws Cymru sy’n dangos y ffordd i nifer gynyddol o bobl ifanc yng Nghymru sy’n dewis dilyn llwybr galwedigaethol bob blwyddyn.
Wrth siarad yn y Seremoni Wobrwyo ar Ddiwrnod VQ amlygodd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol sydd hefyd yn llysgennad Diwrnod VQ ac yn gyn-brentis, Jonathan Davies, y pwysigrwydd o hyfforddiant galwedigaethol tra’n canmol cyflawniad Adam.
Meddai Jonathan Davies: “Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd dysgu sgiliau galwedigaethol, baswn i’n annog dysgwyr a phobl ifanc yng Nghymru i wneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol a hyfforddiant gweithredol. Mae’r amgylchedd gweithio’n cynyddu hyder a hunan-barch tra’n darparu’r gallu i ddelio â phobl o bob cefndir.
“Dwi wrth fy modd i fod yn Llysgennad Diwrnod VQ yng Nghymru ac i gyflwyno’r seremoni wobrwyo. Roedd yn anrhydedd i gwrdd â’r terfynwyr, hoffwn i eu canmol nhw am eu dysgu ac yn arbennig Adam am ei gyflawniadau rhagorol ym myd dawns.”