Dafydd Pritchard

Dafydd Pritchard

Wythnos Beirianneg Cymru

22-26 Tachwedd 2010

Sefydlwyd Wythnos Beirianneg Cymru / Engineering Week Wales (EWW) gan ColegauCymru yn 2005 o ganlyniad i frwdfrydedd colegau a’u dyhead i ddangos y cyfleoedd gyrfa ardderchog y mae peirianneg yn ei gynnig i’r mwyaf galluog, yn ogystal ag amrediad eang o gyfleoedd cyflogaeth ar draws yr ystod o feysydd a sgiliau perthnasol. 

Pob blwyddyn ym mis Tachwedd/Rhagfyr, mae Wythnos Beirianneg Cymru yn cynnig profiadau peirianyddol ymarferol a chyffrous drwy golegau addysg bellach ledled Cymru i ddisgyblion ysgol Blwyddyn 9.  Mae dros 1,000 o ddisgyblion y flwyddyn wedi cymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau sy’n cwmpasu peirianneg awyrofod, gweithgynhyrchu, mecanyddol a modurol.

Yn ystod Wythnos Beirianneg Cymru, mae peiriannwyr proffesiynol yn cynnal sesiynau profi a sialensau i ddatblygu sgiliau a phrofiad disgyblion; yn enwedig, sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau cyfathrebu a datrys problemau; profiadau ymarferol drwy weithgareddau tîm; a gwybodaeth am dechnoleg uwch a dylunio.  Mae sesiynau Wythnos Beirianneg Cymru yn rhoi ar waith meysydd peirianneg megis electroneg a mecanwaith. Bydd gofyn ar ddealltwriaeth o fathemateg/ffiseg. 

Anogir bechgyn a merched i gymryd rhan.  Mae rhai canolfannau yn trefnu diwrnod arbennig ar gyfer marched yn unig yn ystod yr Wythnos, gyda chyfranogiad JIVE.

Mae pob canolfan hefyd yn cynnal Cystadleuaeth Sgiliau Peirianneg – a dyfernir dlws i’r Tîm Blwyddyn 9 gorau sy’n cwblhau’r Gystadleuaeth.  Mae’r gystadleuaeth yn cyfuno sgiliau academaidd ac ymarferol.  Hefyd, cyflwynir Tystysgrif Gyfranogi Wythnos Beirianneg Cymru i bob ysgol a phob disgybl sy’n cymryd rhan.

Y llynedd, bu i 75 o ysgolion gymryd rhan, gyda thîm o ddisgyblion o bob ysgol yn dylunio, adeiladu a threialu un o ystod o gynhyrchion, gan gynnwys:

  • Ceir ralïo a llongau tir bach (gan gynnwys rasus tîm cyffrous ar ddiwedd y dydd!)
  • “Minimal Mouse” electroneg sy’n synhwyro’i ffordd drwy ddrysle
  • Roced, gan ddefnyddio meddalwedd CAD, a’i rasio ar i fyny
  • Lifft sy’n cael ei reoli gan fotor
  • Pontydd i gario pwysau sylweddol

Prif gefnogwyr Wythnos Peirianneg Cymru yw: ColegauCymru, Semta, EngineeringUK, City & Guilds a Gyrfa Cymru.

 

astudiaethau achos

Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho llyfrynnau lliwgar a dwyieithog sy’n llawn astudiaethau achos hynod ddiddorol o beirianwyr ifainc Cymru:

EWW2010

EWW09 booklet pdf

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500